trosglwyddo i ni

dewiswch maethu cymru ynys môn

Rydych chi eisoes wedi gwneud y penderfyniad anhygoel i wneud gwahaniaeth a dod yn ofalwr maeth.

Efallai eich bod eisoes yn maethu gyda ni. Os ydych chi’n maethu gyda’ch awdurdod lleol yng Nghymru, yna rydych chi eisoes yn rhan o deulu ehangach Maethu Cymru.

Os ydych yn ofalwr maeth gydag asiantaeth breifat ar hyn o bryd, mae trosglwyddo i ni yn broses syml.

Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod am drosglwyddo i Maethu Cymru Môn

Gofalwr maeth a bachgen yn sgwrsio / Foster carer and boy chatting

manteision maethu gydag awdurdod lleol

Mae pob plentyn sydd angen gofalwr maeth yn gyfrifoldeb yr awdurdod lleol ac rydym yn cysylltu yn gyntaf â’n gofalwyr mewnol pryd bynnag y mae angen lleoli plentyn.

Dim ond pan na allwn ddod o hyd i leoliad addas gyda’n carfan o ofalwyr maeth y byddwn yn cysylltu ag asiantaethau maethu annibynnol i weld a oes ganddynt ofalwyr maeth addas. Rydym yn foddus o allu lleoli dros 65% o blant Ynys Môn sydd angen cartref maethu gyda’n teuluoedd maethu ni’n hunain.

Gweithiwr cymdeithasol, plentyn a gofalwr maeth / Social Worker, boy and foster carer

ein rôl

Oherwydd rydym yn gyfrifol am pob plentyn sydd angen gofal, ac rydym yn adnabod ein gofalwyr maeth yn dda iawn, gallwn gael y cyfatebiad gorau i bawb. Drwy faethu’n uniongyrchol gyda ni, byddwch chi’n rhan allweddol o dîm gyda gwybodaeth fanwl am daith y plentyn, gwasanaethau lleol ac ysgolion sy’n amhrisiadwy i ofalwyr maeth.

Merch ifanc yn gwenu / Young girl smiling

nid er elw

Fel sefydliad nid-er-elw, mae ein holl gyllid yn mynd yn uniongyrchol i’r gwasanaeth maethu a ddarparwn. Rydyn ni’n gweithio fel un tîm mawr i helpu i adeiladu dyfodol gwell i blant lleol sy’n byw yn ein cymuned trwy eu helpu i aros yn lleol, pan fydd yn iawn iddyn nhw, a chreu canlyniadau gwell iddyn nhw.

Rydym yn gyfeillgar, yn gyfarwydd ac yn deall realiti bywyd yn eich cymuned. Mae gennym wybodaeth leol am ein plant a’n gofalwyr maeth, ac rydym ar gael pryd bynnag y byddwch ein hangen. Byddwch bob amser yn cael eich cefnogi.

Gofalwr maeth a dau o blant yn chwerthin / Foster carer and two children laughing

yr hyn yr ydym yn ei gynnig ym maethu cymru ynys môn

  • Rhwydwaith cefnogol o dros 60 o ofalwyr maeth wedi’u lleoli yn Ynys Môn.
  • Rhaglen ddysgu a datblygu cynhwysfawr, sy’n cynnwys dysgu wyneb yn wyneb a dysgu ar-lein, gyda hyfforddiant a datblygiad arbenigol lle bo angen.
  • Cofnod dysgu unigol a chynllun datblygu, wedi’u llenwi â’r holl sgiliau a phrofiadau trosglwyddadwy y byddwch wedi’u hennill ar hyd y ffordd, ac yn gosod llwybr ar gyfer eich dyfodol.
  • Cefnogaeth broffesiynol 24/7 ar gyfer cyngor, arweiniad neu gefnogaeth. Ni fyddwch byth yn teimlo’n unig gyda ni.
  • Mynediad i nifer o grwpiau cymorth gofal maeth lleol, digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd lle gallwch ddod yn nes at deuluoedd maeth eraill, cael profiadau newydd, cyfeillgarwch ac atgofion parhaol.
  • Cefnogaeth ariannol sylweddol a lwfansau hael, sy’n cynnwys disgownt o 50% ar eich Treth Cyngor.
  • Trwydded parcio am ddim i holl feysydd parcio Cyngor Sir Ynys Môn ac aelodaeth am ddim o ‘Môn Actif’ (canolfannau hamdden).
  • Aelodaeth am ddim o’r Rhwydwaith Maethu.
  • Cyflwyniad i ymuno â Chymdeithas Gofal Maeth Môn.
  • Cerdyn Max ac aelodaeth Cadw ynghyd â mynediad i ostyngiadau amrywiol yn arbennig i ofalwyr maeth Ynys Môn.

Stori Dee a Rob

Rob & Dee

“Buom yn maethu gydag asiantaeth breifat am bron i ddegawd. Nid oeddent wedi’u lleoli’n lleol, a chawsant eu prynu gan gwmni rhyngwladol mawr. Buan y sylweddolom mai gwneud arian oedd y cyfan, ac nad oedd yr elw yr oeddent yn ei wneud yn mynd yn ôl i’r plant chwaith.

“Doedden ni ddim yn hapus a doedden ni ddim eisiau aros gyda nhw. Roedden ni’n maethu plant o Ynys Môn beth bynnag felly roedden ni’n teimlo ei fod yn gwneud synnwyr i faethu’n uniongyrchol gyda’n hawdurdod lleol.

“Rŵan, mae gennym ni lais. Mae gennym gefnogaeth o’n cwmpas ac yn agos atom. Rydym yn rhan o gymuned faethu arbennig. Rwy’n difaru peidio â throsglwyddo’n gynt.”

Dee a Rob, Gofalwyr Maeth Awdurdod Lleol, Ynys Môn

sut i drosglwyddo atom ni

Mae trosglwyddo i ni yn dechrau gyda sgwrs gyfeillgar, heb unrhyw rwymedigaeth.

Byddwn yn siarad am pam rydych am drosglwyddo, sut y bydd y broses yn gweithio orau i chi, sut y byddwn yn eich cefnogi ac yn trafod eich anghenion.

P’un a oes gennych blentyn neu berson ifanc yn byw gyda chi eisoes, ai peidio, mae gennym lawer o brofiad o’r broses drosglwyddo a byddwn yn sicrhau bod y broses mor syml â phosibl.

  1. Siaradwch amdano
  2. Penderfynu trosglwyddo
  3. Derbyn yr Asesiad
  4. Penderfyniad terfynol
Teulu yn cerdded ar y traeth / Family walking on a beach

canllaw trosglwyddo

Cysylltwch â ni am sgwrs gyfeillgar, heb unrhyw rwymedigaeth, am drosglwyddo atom ni, ac i dderbyn eich canllaw trosglwyddo:

01248 752772
[email protected]