pam ein dewis ni?
Mae Maethu Cymru yn wahanol i asiantaethau maethu eraill. Rydyn ni bob amser yn canolbwyntio ar bobl, dim elw.
dysgwych mwysut mae'n gweithio
Mae maethu yn Ynys Môn yn fwy cysylltiedig nag y byddech chi’n ei sylweddoli. Mae ein rhwydwaith amrywiol ac ymroddedig bob amser ar gael i roi’r wybodaeth, y gefnogaeth arbenigol a’r cyngor sydd eu hangen arnoch chi.
Rydyn ni yma i chi, dim ots beth.
Mae Maethu Cymru Ynys Môn wedi ymrwymo i gefnogi yn y gymuned, p’un ai yw hynny’n golygu cefnogi’r plant yn ein gofal, eu teuluoedd maeth neu’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda ni bob dydd.
Rydyn ni’n gallu cynnig cymaint o gefnogaeth oherwydd ein bod ni’n dîm ehangach o 22 o sefydliadau nid-er-elw ar draws Cymru. Rydyn ni’n gallu rhannu ein harbenigedd yn gyffredinol i sicrhau bod ein gofalwyr maeth yn fwy na chymwys.
Maethu Cymru yw’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 tîm maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Rydyn ni’n darparu’r help a’r gefnogaeth leol sydd eu hangen arnoch chi, ynghyd ag arbenigedd tîm cenedlaethol ehangach.
Mae’r pwyslais lleol hwn yn golygu ein bod ni wedi ymrwymo i Ynys Môn. Ein blaenoriaeth yw bod plant yn ein hardal leol yn aros yn eu cymunedau ac yn cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu. Dydy pob asiantaeth faethu ddim yn rhannu’r gwerth hwn.
Byddwn ni bob amser yn rhoi pobl cyn gwneud elw. Fel sefydliad nid-er-elw, mae’r holl arian cyhoeddus rydyn ni’n ei dderbyn yn cael ei fuddsoddi yn ein gwasanaethau a’n timau i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’r plant yn ein gofal.