pam maethu gyda ni?

pam ein dewis ni?

pam ein dewis ni?

Mae Maethu Cymru yn wahanol i asiantaethau maethu eraill. Rydyn ni bob amser yn canolbwyntio ar bobl, dim elw.

Ni yw’r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Mae ein tîm wedi ymrwymo i weithio gyda gofalwyr maeth i greu bywydau gwell i blant lleol. Dyma ein brwdfrydedd a’n pwrpas ni.

Teulu yn mwynhau hufen iâ / Family enjoying ice cream

ein cenhadaeth

Mae yna blant o bob oed ar hyd a lled Cymru sydd ein hangen ni ac eich angen chi.

Mae gan bob plentyn orffennol gwahanol. Ein cenhadaeth yw creu dyfodol mwy disglair i blant Ynys Môn.

Gofalwr maeth a dau o blant yn y gegin / Foster carer and two young children in kitchen

ein cymorth

Rydyn ni’n eich cefnogi chi a’r plant yn ein gofal, ar lefel leol.

Rydyn ni yma i gynnig ein harbenigedd pwrpasol, ein cyngor a’n hyfforddiant hanfodol 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae gennyn ni gysylltiadau unigryw, ac rydyn ni wedi buddsoddi’n llwyr yn y gwaith o wneud y gorau i’n gofalwyr maeth ac i’r plant maen nhw’n gofalu amdanyn nhw.

Merch ifanc yn gwenu / Young girl smiling

ein ffyrdd o weithio

Mae cysylltu a chydweithio yn allweddol i’r hyn mae Maethu Cymru Ynys Môn yn ei wneud. Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth go iawn i deuluoedd yn ein cymuned leol.

Mae pob plentyn yn unigryw, ac mae ein gofalwyr maeth i gyd yn unigryw hefyd. Rydyn ni’n eu helpu i fod y fersiwn gorau ohonyn nhw’u hunain drwy ddefnyddio eu talentau a’u helpu i dyfu.

Bachgen a merch ifanc hapus / Young boy and girl smiling

eich dewis

Rydyn ni’n deall pwysigrwydd gwneud y dewis iawn i’ch teulu, felly rydyn ni yma i gynnig y gefnogaeth a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi er mwyn gallu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth.

Dewiswch Maethu Cymru a gweithio gyda phobl sy’n malio go iawn. Mae ein tîm yn llawn unigolion dwyieithog ymroddedig sydd wedi’u hyfforddi, sy’n byw yn yr ardal ac sy’n gwerthfawrogi realiti bywyd yn eich cymuned.

Cysylltwch â ni heddiw i gymryd y cam cyntaf tuag at eich taith faethu.

Teulu yn cerdded ar y traeth / Family walking on a beach

cysylltwch heddiw