
Mae Ian wedi bod yn maethu gyda’i awdurdod lleol ers dros 25 mlynedd gan ddarparu gofal maeth hirdymor a pharhad i blant hŷn a phobl ifanc yn Ynys Môn.
Ar ôl i wraig Ian, Liz, farw dros 10 mlynedd yn ôl, daeth Ian yn ofalwr maeth sengl. Ers hynny, mae wedi bod yn esiampl cadarnhaol i’r bobl ifanc y mae’n eu maethu.
Yn fwy diweddar, mae Ian wedi bod yn gofalu am dri pherson ifanc yn eu harddegau ac mae un ohonynt newydd ddechrau yn y Brifysgol, ac yn ôl Ian, mae hynny’n gwneud y cyfan yn werth chweil.
Mae’n rhannu ei stori ysbrydoledig.
Bu Ian a Liz yn ofalwyr maeth am flynyddoedd lawer, ers pan oedd eu plant eu hunain yn ifanc.
“Roedd Liz wastad wedi bod eisiau tŷ llawn plant felly pan oedd ein plant ni ychydig yn hŷn, fe ddechreuon ni edrych mewn i faethu,” meddai Ian, sy’n 65 oed. “Ar y pryd, doedd dim gymaint o sôn am faethu, felly nid oeddem yn gwybod llawer amdano, a beth oedd yr angen yn yr ardal hon.”
“A dyna sut y dechreuodd popeth a dweud y gwir! Cyn bo hir, roedd gennym frawd a chwaer 8 a 4 oed yn byw gyda ni ac yma fuon nhw hyd nes eu bod nhw’n oedolion, ac maen nhw’n dal i fod yn rhan o’r teulu heddiw.”
Yn anffodus, bu farw Liz yn 2013, a bu Ian yn pendroni a fyddai’n gallu parhau â’i daith faethu hebddi.
“Mi roedd y cyfnod yn dilyn colli Liz yn galed, a’r misoedd yn dilyn ei marwolaeth oedd y prawf go iawn, ac a oeddwn am barhau i faethu ar fy mhen fy hun ai peidio,” ychwanegodd Ian.
“Ond penderfynais gario ‘mlaen, a dyna sut rydw i wedi cyrraedd lle rydw i nawr.”
“gallaf ymddiried yn llwyr yn fy ngweithiwr cymdeithasol”
Pan fyddwch yn maethu gyda’ch awdurdod lleol, bydd gennych dîm lleol yn eich cefnogi a’ch annog bob cam o’r ffordd fel nad ydych byth yn teimlo eich bod yn maethu ar eich pen eich hun, hyd yn oed os ydych yn ofalwr sengl. Bydd gennych weithiwr cymdeithasol profiadol fydd yn eich goruchwylio, eich datblygu a’ch cefnogi chi drwy gydol eich siwrnai fel gofalwr maeth.
“Mae gen i weithiwr cymdeithasol gwych y gallaf ymddiried ynddi’n llwyr, sy’n bwysig yn enwedig fel gofalwr maeth sengl,” meddai Ian. “Mae hi’n gwrando arnai ac rydym yn gallu bod yn agored ac yn onest gyda’n gilydd.
Mae yna ‘chydig o hwyl i’w gael hefyd ac mae angen hynny weithiau i’ch cynnal drwy’r cyfnodau heriol o faethu.
Fel arfer, os nad ydw i wedi gweld na siarad â hi yn ystod yr wythnos, bydd hi’n fy ffonio ar brynhawn Gwener i weld a yw popeth yn iawn ac i ofyn sut ydw i.
Mae pethau bach fel yna yn mynd yn bell ac yn eich atgoffa bod rhywun bob amser yno i chi.”
“mae’n bwysig gwneud amser i chi’ch hun”
Gall rhwydweithiau cymorth personol hefyd fod yn bwysig iawn i unrhyw ofalwr maeth i gael cymorth ymarferol a chefnogaeth emosiynol, boed hynny gan deulu neu ffrindiau.
“Mae’n bwysig gwneud amser i chi’ch hun bob hyn a hyn i fynd allan efo ffrindiau, mynd ar wyliau a chael diddordebau eraill, sydd ddim bob amser yn hawdd fel gofalwr sengl.
Rwy’n lwcus iawn yn hynny o beth bod gen i fy merch, Llinos, a’m hŵyr sy’n byw’n agos ac yn rhoi llawer iawn o gymorth ymarferol i mi fel y gallaf gael ‘chydig o fywyd cymdeithasol!”
Mae gen i swydd ran-amser gyda chwmni bysiau lleol hefyd, sy’n fy nghael allan o’r tŷ ac yn cyd-fynd â maethu.”

“mae fy nrws bob amser yn agored iddyn nhw”
Mae perthnasoedd wrth wraidd gofal maeth. Yn aml iawn, gall y berthynas rhwng y plentyn a’r gofalwr maeth barhau nes maent yn oedolyn, ac am weddill eu hoes.
“Ar ôl bod trwy gymaint gydag ambell un, mae’r perthnasoedd rydw i wedi’u ffurfio gyda rhai o’r bobl ifanc yn debycach i berthynas tad a mab neu ferch.
Nid wyf yn ystyried y lle hwn fel cartref maeth, eu cartref nhw ydyw ac mae fy nrws bob amser yn agored iddyn nhw hyd yn oed pan maent yn oedolion ac wedi symud ymlaen.
Mae rai ohonynt dal i ffonio a galw draw, yn enwedig pan maent eisiau rhywbeth!
Dyw maethu ddim yn ymwneud â fi fel gofalwr maeth yn unig – mae’r teulu cyfan yn rhan ohono, ac mae’r teulu wedi tyfu dros y blynyddoedd drwy faethu.
Rwyf hyd yn oed yn daid maeth bellach, sy’n gwneud i mi deimlo’n hen!”
“rydw i mor falch fy mod wedi parhau i faethu, mae’n rhoi ffocws a phwrpas i mi”
Mae Ian yn dweud bod maethu wedi ei helpu i symud ymlaen ar ôl marwolaeth ei wraig gan roi pwrpas iddo.
“Wn i ddim sut beth fyddai bywyd wedi bod i mi pe bawn i wedi rhoi’r gorau i faethu ar ôl i mi golli Liz, neu lle byddwn i nawr heb rai o’r bobl ifanc yr wyf wedi gofalu amdanynt, ac yn dal i’w cefnogi heddiw.
Doedd gen i ddim amser i eistedd adref a galaru. Mae rhai o’r plant a’r pobl ifanc ‘ma wedi fy nghadw i fynd, wedi rhoi pwrpas i mi, ac maen nhw heb os nac oni bai, wedi fy helpu dros y blynyddoedd.
Mae yna blant sydd wedi dod i’m bywyd, a fi i’w bywyd nhw, ar yr adeg iawn, a dyna oedd i fod i bawb, rwy’n tybio!”
“ewch amdani, mae’n wirioneddol werth chweil”
I ddynion eraill sy’n ystyried maethu fel gofalwr sengl, byddai Ian yn dweud ‘ewch amdani’.
“Nid yw bob amser yn daith hawdd i ddechrau a gall bod yn ofalwr maeth sengl fod yn anodd ar brydiau. Ond, os gallwch barhau i gynnig cefnogaeth a gofal, gallwch helpu’r bobl ifanc ‘ma i droi eu bywyd o gwmpas a rhoi dyfodol da iddynt.
Mae eu gweld yn mynd i’r coleg neu’r brifysgol, yn ffurfio perthnasoedd sefydlog, cael plant eu hunain a bod yn fodlon a hapus â’u bywydau yn rhai o’r pethau hynny na feddyliais erioed y byddai rhai byth yn eu gwneud pan wnes i eu cyfarfod nhw gyntaf.
Mae’n wirioneddol werth chweil gweld y canlyniad terfynol.”