
Ar ôl maethu gydag asiantaeth faethu annibynnol am dros ddegawd, penderfynodd Dee a Rob drosglwyddo i wasanaeth maethu eu hawdurdod lleol, Ynys Môn, yn 2020 ac maent wedi bod yn maethu gyda ni, Maethu Cymru Môn, fyth ers hynny.
Mae Dee yn sôn am ei siwrnai fel gofalwr maeth, y rheswm dros drosglwyddo i’n gwasanaeth ni a pham ei bod yn angerddol dros fath penodol o ofal maeth.
pryd wnaethoch chi ddechrau meddwl am faethu?
“Roeddwn i wedi bod eisiau maethu ers tro ond roedd Rob, fy ngŵr, yn yr awyrlu. Roeddem yn symud yn aml ac felly nid oedd yn bosib.
Fe wnaethom dreulio amser yn yr Almaen ac yn ystod ein cyfnod yno fe wnaethom ni weithio gydag elusen leol a oedd yn cefnogi plant o Felarws a oedd wedi cael eu heffeithio gan yr halogiad yn Chernobyl. Roedd plant yn dod i aros efo ni am ryw fis ac yn treulio amser yn yr awr agored ac yn cael bwyd maethlon i helpu i ymestyn eu bywydau.
Roedd y fenter hon yn fenter tymor byr ac roeddwn i’n awyddus i wneud mwy.”
pryd wnaethoch chi ddechrau maethu?
“Ar ôl i Rob gwblhau ei 30 mlynedd o wasanaeth gyda’r awyrlu, fe symudom yn ôl i Ynys Môn a dechreuom siarad am faethu gydag aelodau eraill o’r teulu. Cefais wybodaeth am faethu gydag asiantaeth annibynnol gan aelod o’r teulu ac fe wnes i gysylltu â hwy. Fe ddechreuom faethu yn 2010.”
beth ydi’ch profiad chi o faethu gydag asiantaeth a pham wnaethoch chi benderfynu trosglwyddo?
“Gan fod yr asiantaeth wedi’i lleoli yn Wrecsam, roedd rhaid i ni deithio’n bell i fynychu’r hyfforddiant ac yn fuan ar ôl i ni ddechrau maethu gyda hwy cafodd yr asiantaeth ei phrynu gan gwmni rhyngwladol mawr. Yn fuan iawn fe sylweddolom mai gwneud elw oedd y brif flaenoriaeth, ac nid oedd yr elw hwnnw’n cael ei fuddsoddi’n ôl yn y gwasanaeth maethu chwaith.
Nid oeddem yn cael cyfle i gwrdd â rhieni maeth eraill, ac mae cael cymuned o ofalwyr maeth o’ch cwmpas pan fo angen yn hynod bwysig.
Doedden ni ddim yn hapus ond bob tro yr oeddem ni’n dweud ein bod ni am adael, roeddent yn llwyddo i’n cael ni i newid ein meddyliau.
Gan ein bod ni’n gofalu am blant o Ynys Môn, a chan mai’r awdurdod lleol oedd gan gyfrifoldeb cyfreithiol drostynt, roedd yn gwneud synnwyr cael gwared â’r ‘dyn yn y canol’ a maethu gyda’r awdurdod lleol yn uniongyrchol.
Y prif beth a wnaeth ein hatal rhag trosglwyddo’n gynt oedd meddwl am orfod llenwi’r Ffurflen F unwaith eto. Fe gymerodd flynyddoedd i wneud hyn y tro cyntaf ond mae Maethu Cymru Môn wedi ymrwymo i alluogi gofalwyr drosglwyddo mor rhwydd a diffwdan â phosib ac maent yn anelu at gwblhau’r Ffurflen F cyn pen 12 wythnos. Nid yw hyn bob amser yn bosibl wrth gwrs ond roedd gennym ni blant maeth dan ein gofal ar y pryd ac felly cafodd y broses ei chwblhau’n gyflymach.”
ydi maethu gyda’ch awdurdod lleol wedi cwrdd â’ch disgwyliadau?
“Ers ymuno â thîm Maethu Cymru Môn, dydyn ni ddim yn bell oddi wrth neb nac unrhyw beth yr ydym ni ei angen. Mae gennym ni rwydwaith o gefnogaeth o’n hamgylch.
Os ydw i angen gweld fy Ngweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol, sy’n wych, mae hi’n galw heibio i’m gweld. Os ydw i angen galw yn y swyddfa i weld y tîm, maent dafliad carreg i ffwrdd.
Mae’r hyfforddiant hefyd ar gael ar garreg ein drws, sy’n gwneud gwahaniaeth mawr.
Y peth pwysicaf ydi teimlo fel rhan o’r gymuned faethu. Rydym wrth ein bod yn rhan o gymdeithas Gofal Maeth Môn, sy’n cael ei rhedeg gan deuluoedd maeth lleol, a chymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer plant maeth a’u teuluoedd.
Mae gennym ni lais. Rydym yn derbyn cefnogaeth yn ein hardal ni. Rydym yn rhan o un tîm mawr.
Mae’n biti na wnaethom ni drosglwyddo i’n hawdurdod lleol yn gynt.”
soniwch am eich profiad o faethu a pham eich bod wedi penderfynu arbenigo mewn maethu rhiant a phlentyn
“Rydym wedi darparu gwahanol fath o ofal maeth dros y blynyddoedd ond rydym wedi bod yn arbenigo mewn maethu rhiant a phlentyn ers sbel. Dydi hi ddim bob amser yn hawdd, ond rydym yn credu’n gryf mewn cadw teuluoedd gyda’i gilydd, dyma pam ein bod yn gwneud hyn.
Mae’r math yma o ofal maeth yn galluogi’r rhiant, y fam fel arfer, i dderbyn cymorth ychwanegol wrth ddysgu sut i ymdopi â bod yn rhiant. Rydym yn gallu rhannu’n profiad ni gyda rhywun sydd angen cymorth ac arweiniad. Ar ôl magu tri o blant, a chael 4 o wyrion, mae’r reddf famol yn dal i fod yn gryf, ac felly mae hyn yn rheswm arall dros ddewis y math yma o ofal.
Maent fel arfer yn byw efo ni am hyd at 4 mis nes eu bod yn gallu gofalu am eu plentyn yn hyderus ar eu pen eu hunain. Fe all y math yma o ofal maeth wneud gwahaniaeth o ran cadw teuluoedd gyda’i gilydd,
Dydi’r lleoliadau hyn ddim bob amser yn gweithio, ond mae eu gweld yn llwyddo yn rhoi cymaint o foddhad.”
pa heriau sydd ynghlwm â maethu rhiant a phlentyn?
“Fe all cael oedolyn arall yn eich cartref fod yn anodd. Mae’n gallu bod yn llethol ar adegau ac mae yna lawer iawn o waith gweinyddol a gwaith papur.
Rydym yn ceisio rhoi cymaint o breifatrwydd a llonyddwch iddynt â phosib, ond pan maent yn ein cwmni maent yn rhan o’r teulu. Mae ganddynt eu hystafell fyw ac ystafell ymolchi eu hunain. Rydym yn rhannu cegin ond mae ganddynt eu hoergell a’u cwpwrdd eu hunain er mwyn iddynt allu dysgu sut i fyw’n annibynnol ac o fewn eu cyllideb.
Wrth faethu plentyn, chi ydi’r prif ofalwr a chi sy’n gyfrifol am wneud popeth i’r plentyn. Ond wrth ddarparu gofal maeth i riant a phlentyn, y rhiant sy’n darparu llawer iawn o’r gofal. Efallai nad ydynt yn gwneud pethau yn yr un ffordd ac y buasech chi, ond mae’n rhaid ceisio’u helpu i ddod o hyd i’w harferion a’u steil nhw eu hunain o rianta.
Mae gen i declynnau monitro wrth fy ngwely ac felly os ydw i’n gweld nad ydi’r babi wedi cael bwyd, neu os ydi’r babi yn y gwely gyda’r fam, rydw i’n codi a helpu. Gyda babis bach iawn, mae gennym ni gamerâu dros y crud ac wrth y gadair fwydo.
Fedrwch chi fyth ymlacio. Rydych chi ar ddyletswydd drwy’r adeg
Ond mae gwybod eich bod chi wedi gwneud gwahaniaeth, ni waeth pa mor fach, yn gwneud y cyfan werth chweil.”
pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywus sydd ar fin dechrau maethu?
“Does yna ddim byd a all eich paratoi mewn gwirionedd. Fyddwch chi byth yn gwybod sut beth ydi bod yn ofalwr maeth nes eich bod wedi rhoi cynnig arni.
Ar ôl cael eich cymeradwyo, rydych yn awyddus i gael yr alwad gyntaf, ond does yna ddim un hyfforddiant yn y byd a fydd yn eich paratoi.
Rydych yn meddwl eich bod am helpu cymaint o blant a chadw teuluoedd gyda’i gilydd ac y bydd yr holl blant yr ydych chi’n gofalu amdanynt yn eich caru chi – achos pwy fyddai ddim yn hoffi byw yn eich cartref braf chi?
Ond mae’n rhaid i chi edrych ar y sefyllfa o bersbectif y plentyn. Allwch chi ddim disgwyl llawer ganddynt ar y dechrau. Does dim ots pa mor ofnadwy oedd eu cartref neu eu bywyd cyn dod i fyw efo chi, hwn oedd eu cartref nhw, eu bywyd nhw. Dyma’r bywyd yr oedden nhw wedi arfer ag o ac mae’n bosib na fyddant eisiau byw efo chi ar y dechrau.
Fy mhrif gyngor ydi peidiwch â disgwyl gormod. Cymrwch gam yn ôl. Gadewch iddyn nhw ddod atoch chi, eich deall chi a chymerwch un dydd ar y tro.”
allech chi faethu gyda’ch awdurdod lleol?
Os ydych chi’n byw yn Ynys Môn ac os ydych chi’n meddwl y gallwch chi helpu i greu bywyd gwell i blant lleol, cysylltwch â Maethu Cymru Môn a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu am sgwrs gyfeillgar, heb unrhyw rwymedigaeth, i’ch helpu i benderfynu os ydi maethu’n addas i chi.
Os ydych chi’n byw mewn rhan arall o Gymru, ewch i wefan Maethu Cymru am ragor o wybodaeth ac i ddod o hyd i’ch tîm maethu lleol.