
dod i nabod Ilaria
Pan fyddwch yn maethu gyda’ch awdurdod lleol, bydd gennych dîm i’ch cefnogi a’ch annog bob cam o’r ffordd. Bydd gennych Weithiwr Cymdeithasol profiadol a fydd yn eich goruchwylio, eich datblygu a’ch cefnogi chi a’ch teulu drwy gydol eich siwrnai fel gofalwr maeth.
Mae Ilaria yn Weithiwr Cymdeithasol Goruchwylio Gofal Maeth gyda Maethu Cymru Môn. Mae hi’n siaradwr Cymraeg rhugl ac mae wedi gweithio ym maes maethu awdurdod lleol ers nifer o flynyddoedd. Mae ganddi brofiad o weithio â phob math o deuluoedd a sefyllfaoedd.
Mae Ilaria’n sôn mwy am ei rôl a sut mae meithrin perthynas gyda phawb sy’n rhan o fywyd y plentyn maeth yn rhan allweddol o fod yn Weithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol mewn Gofal Maeth.
sut wnes di ddechrau gweithio ym maes gwaith cymdeithasol?
“Ar ôl gadael yr ysgol yn 18 oed fe es i i weithio fel nani yn yr Eidal am 4 blynedd. Mae fy nhad yn dod o’r Eidal a ro’n i eisiau bod yn agos at fy nheulu. Ychydig flynyddoedd ar ôl i mi ddychwelyd i Gymru, cefais swydd fel Cynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol gyda’r Tîm Plant yn fy awdurdod lleol cyn mynd ymlaen i gymhwyso fel Gweithiwr Cymdeithasol ym 1999.
Ar ôl gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol am 25 mlynedd mewn gwahanol rolau, rydw i wedi dod o hyd i swydd sy’n caniatáu i mi ddefnyddio fy ngwybodaeth a’m sgiliau.”
disgrifia dy rôl fel gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol mewn gofal maeth?
“Mae gen i nifer o wahanol gyfrifoldebau ond mae gen i ddwy het yn bennaf – het cefnogi a het goruchwylio.
Rydw i’n cefnogi teuluoedd maeth a theuluoedd maeth newydd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn gallu cael gafael ar wybodaeth, hyfforddiant, cyngor a chyfarwyddyd i’w galluogi i gwrdd ag anghenion y plentyn neu’r person ifanc sydd dan eu gofal. Mae’r rôl hefyd yn golygu darparu unrhyw gymorth emosiynol ac ymarferol y maent ei angen.
Mae’r goruchwylio fel arfer yn digwydd pob 1 – 3 mis ac mae’n gyfle i adlewyrchu a sicrhau bod y gofalwyr maeth yn gweithio yn unol â’r deddfwriaethau, rheoliadau a safonau maeth.
Mae gan bob plentyn maeth gynllun gofal, sy’n darparu gwybodaeth bwysig yn ymwneud â’r plentyn ac sy’n nodi beth ddylai ddigwydd tra bo’r plentyn yn byw yn y cartref maeth, a beth fydd yn digwydd ar ddiwedd ei gyfnod gyda’r teulu. Rydw i’n gweithio’n agos efo’r gofalwyr maeth er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn glynu wrth y cynllun gofal yn ogystal â rhoi cyfle iddynt herio neu awgrymu newidiadau i’r cynllun os ydynt yn meddwl nad ydi’r cynllun yn gweithio er lles y plentyn.
Mi fuaswn i’n disgrifio fy rôl fel un lle’r ydw i ‘bob amser yn dawnsio’ – dawnsio gyda’r tîm plant a dawnsio gyda’r gofalwyr maeth i sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer ein plant maeth.
Ar hyn o bryd rydw i’n cefnogi 14 o deuluoedd maeth.”
pa sgiliau a rhinweddau sy’n angenrheidiol ar gyfer y rôl gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol mewn gofal maeth?
“Mae’r rôl Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol yn golygu meithrin perthynas gyda phawb yn y cartref maeth a phawb sy’n rhan o fywyd y plentyn neu berson ifanc. Mae meithrin ymddiriedaeth yn bwysig iawn ac felly mae’n rhaid i bobl allu dibynnu arnoch chi.
Rhaid cael sgiliau gwrando da. Mae empathi yn rhan bwysig o’r rôl fel bod modd i ofalwyr maeth fod yn agored efo chi. Rydym yn delio efo pob math o emosiynau felly mae’n rhaid bod yn gryf hefyd. Efallai eich bod yn brifo fel dw’n i’m be y tu mewn ond mae’n rhaid i chi fod yn gryf er mwyn y gofalwyr maeth.
Mae hefyd yn golygu rheoli disgwyliadau pobl yn ogystal ag annog gofalwyr i reoli eu disgwyliadau. Mae helpu pobl eraill i fyfyrio yn sgil bwysig arall.
Weithiau mae’n rhaid bod yn ddyfeisgar a bob yn barod i ystyried syniadau newydd.”
beth ydi diwrnod arferol fel gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol mewn gofal maeth?
“Un diwrnod, rydw i mewn cyfarfodydd Adolygiadau Pant Mewn Gofal gefn wrth gefn drwy’r dydd. Mae’r rhain yn gyfarfodydd sy’n digwydd yn rheolaidd lle mae’r bobl sy’n rhan o ofal y plentyn y dod at ei gilydd.
Dro arall, rydw i’n dal i fyny efo gwaith papur a galwadau ffôn, ac yn cysylltu efo pawb sy’n dod i gysylltiad efo’r teuluoedd maeth yr ydw i’n eu cefnogi.
Dydi hon ddim yn swydd weinyddol o gwbl – mae cydbwysedd da rhwng gweld a chefnogi gofalwyr a chael amser i wneud gwaith papur.”
pa mor aml fyddi di’n mynd i weld y teuluoedd maeth?
“Tua unwaith y mis ond mae’n dibynnu ar faint o gymorth a chyswllt maent ei angen. Weithiau mi fydda i’n galw heibio’n amlach ac rydw i bob amser ar gael ar ben arall y ffôn.
Mae gennym dîm da o weithwyr sy’n cefnogi’n teuluoedd maeth yn ogystal.
Y brif flaenoriaeth i mi ydi lles fy ngofalwyr maeth. Y peth cyntaf fydda i’n ei ofyn wrthyn nhw ydi sut ydych chi’n teimlo. Os ydi’r gofalwyr maeth yn hapus, yna mae’r plant maeth fel arfer yn hapus hefyd.
Mae pawb yn byw’n agos ac yn rhan o’r un gymuned. Da’ ni’n nabod ein teuluoedd maeth yn dda.
Dwi’n meddwl y dylai gofalwyr maeth gael eu hystyried yn weithwyr proffesiynol ac mi fydda i bob amser yn eu trin felly gan ein bod ni’n rhan o’r un tîm.
Dyna beth ydi maethu efo awdurdod lleol yn y bôn.”
pa gymorth sydd ar gael i ofalwyr maeth y tu allan i oriau swyddfa?
“Wrth i mi ddod i nabod fy ngofalwyr maeth a meithrin perthynas efo nhw, yn aml iawn rydw i’n gallu rhagweld beth all ddigwydd dros y penwythnos neu yng nghanol y nos. Rydw i’n creu cynllun ar eu cyfer ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod gyda phwy y dylent gysylltu fel nad ydynt yn teimlo’u bod ar eu pen eu hunain heb unrhyw help.”
beth wyt ti’n ei hoffi fwyaf am dy rôl?
“I mi, y peth sy’n rhoi’r boddhad mwyaf ydi pan fydd y plant a’u teuluoedd yn dod ataf i flynyddoedd yn ddiweddarach, yn fy nghofio, ac yn sôn am y gwahaniaeth yr ydw i wedi’i wneud i’w bywydau – does dim byd tebyg.
Rydw i wedi meithrin perthnasau hirdymor yn y rôl yma ac rydw i’n angerddol ynglŷn â hynny.
Mae gweithio gyda ffoaduriaid ifanc a’u gofalwyr maeth hefyd yn rhoi llawer iawn o foddhad i mi. Mae’n braf eu gweld yn ffynnu mewn gwlad ddieithr ac yn dod yn rhan o’r gymuned leol.”
beth ydi’r heriau mwyaf?
“Yr her fwyaf ydi dod o hyd i deuluoedd addas ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc. Yn aml iawn does gennym ni ddim llawer o opsiynau.
Mae’n braf gallu cynnig dewis i’r tîm plant, ond yn anffodus dydi hynny ddim bob amser yn bosibl, yn enwedig gydag achosion cymhleth. Dyma pam ei bod hi’n bwysig recriwtio mwy o ofalwyr maeth fel bod gennym ddewis eang o ofalwyr er mwyn gwneud yn siŵr bod ein plant a’n pobl ifanc yn gallu aros yn lleol a’n bod ni’n eu paru efo’r teulu cywir.”
sut wyt ti’n delio efo’r heriau sy’n gysylltiedig â’r rôl?
“Mae meddwlgarwch wedi fy helpu i ddelio efo sefyllfaoedd heriol ac wedi fy ngalluogi i helpu’r gofalwyr maeth yn ystod cyfnodau anodd.”

sut wyt ti’n ymlacio y tu allan i’r gwaith?
“Dwi wrth fy modd yn coginio – mae bwyd Eidaleg yn rhan o fy nhreftadaeth. Yn ystod y cyfnod clo mi wnes i ddechrau pobi bara surdoes ac mi ydw i’n dal i wneud!
Pan es i ar y cwrs meddwlgarwch, nes i herio fy hun i ddechrau syrffio. Dydw i ddim yn grêt ond mae bod wrth ymyl y môr yn bwysig i mi. Dwi’n hoff iawn o’r dywediad “You can’t stop the waves, but you can learn to surf” (Jon Kabat-Zinn). Mae’n adlewyrchu’r ffaith bod bywyd yn heriol ond drwy addas ein sgiliau fe ddown ni drwyddi.
Mae’r Eidal yn agos iawn at fy nghalon ac mi ydw i wrth fy modd mynd yno a threulio amser efo fy nheulu.”
pa gyngor sydd gen ti i rywun sy’n ystyried maethu?
“Does dim ffasiwn beth â theulu maeth arferol ac rydym yn croesawu gofalwyr maeth o bob rhan o’r gymuned.
Ewch i gael sgwrs efo’ch tîm maethu lleol Gallwch weld sut y gall maethu weithio i chi a’ch teulu, a pha hyfforddiant a chefnogaeth sydd ei angen arnoch.
Hyd yn oes os ydych chi dim ond gwneud gwahaniaeth i fywyd un plentyn neu berson ifanc, mae hynny’n fwy na digon.”
allech chi faethu gyda’ch awdurdod lleol?
Os ydych chi’n byw yn Ynys Môn, cysylltwch efo Maethu Cymru Môn ac mi gysylltwn yn ôl efo chi am sgwrs gyfeillgar, heb unrhyw rwymedigaeth o gwbl i’ch helpu i benderfynu os ydi maethu’n addas i chi.
Os ydych chi’n byw mewn rhan arall o Gymru ewch i wefan Maethu Cymru- dolen allanol yn agor mewn tab newydd i gael mwy o wybodaeth a dod o hyd i dîm maethu eich awdurdod lleol.