sut rydyn ni’n eich cefnogi chi

cymorth a lwfans yn ynys môn

sut rydyn ni’n eich cefnogi chi yn ynys môn

Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi. Mae hynny’n golygu y byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i’ch helpu i roi cartref sefydlog a chariadus i blentyn maeth lleol.

Hyd yn oed cyn i blentyn gyrraedd, mae Maethu Cymru Ynys Môn, yn darparu arweiniad a hyfforddiant manwl i wneud yn siŵr bod maethu yn addas i chi a’ch teulu. Ond dyw’r cymorth ddim yn dod i ben yno.

Unwaith eich bod yn maethu plentyn, rydyn ni’n cynnig:

  • arweiniad parhaus gan weithiwr cymdeithasol dynodedig
  • tâl maethu i dalu costau byw hanfodol
  • cymuned o deuluoedd maeth lleol sy’n gallu rhannu profiadau
  • cyfeillgarwch a digwyddiadau cymdeithasol
  • a llawer mwy o fuddion.
mae’n bwysig ystyried yr holl fuddion lleol er mwyn cael gwell dealltwriaeth, cyn cymharu taliadau gofalwyr maeth.

Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y cymorth maethu a’r gwobrau rydyn ni’n eu cynnig.

Foster Wales Anglesey service group photo

lwfans gofal maeth

ydy gofalwyr maeth yn cael eu talu?

Ydyn, mae gofalwyr maeth yn derbyn taliad i dalu costau gofalu am blentyn.  Bydd y swm hwn yn amrywio ar sail sawl ffactor, gan gynnwys

  • faint o blant rydych chi’n eu maethu
  • oedran y plant
  • ac ers pryd rydych chi wedi bod yn maethu.

Fodd bynnag, dyw bod yn ofalwr maeth ddim yn swydd gonfensiynol. Nid yw’n ffitio mewn bocs. Mae’n alwedigaeth fedrus 24-7 gartref rydyn ni’n eich cefnogi’n ariannol i’w gwneud.

Yma yn Maethu Cymru Ynys Môn, mae’n bwysig i ni bod plant yn cael popeth sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu, felly rydyn ni’n rhannu’r taliad yn 3 ran: y lwfans plant wythnosol + ffi’r gofalwr + taliadau ychwanegol.

lwfans plentyn

Yn Ynys Môn, taliad lwfans y plentyn yw £212.93-£284.30 yr wythnos, yn dibynnu ar oedran y plentyn. Mae’r rhan hon o’r taliad yn cael ei rhoi at ddiben penodol prynu unrhyw beth sydd ei angen ar y plentyn, fel bwyd, dillad neu nwyddau ymolchi ynghyd â thalu biliau cartref ychwanegol.

ffi gofalwr maeth

Mae ffioedd yn cael eu talu ar ben lwfansau i gydnabod amser, sgiliau a phrofiad gofalwr maeth. Yn Ynys Môn, mae’r elfen ffioedd yn amrywio o £140 i £220 yn dibynnu pa mor hir rydych chi wedi bod yn ofalwr maeth, pa brofiad sydd gennych a pha fath o faethu rydych chi’n ei wneud.

taliadau ychwanegol

Yn Ynys Môn, rydym hefyd yn rhoi taliad ar gyfer pen-blwydd y plentyn, Nadolig, gwyliau’r haf a chostau milltiroedd, ac rydym yn darparu offer os ydych chi’n gofalu am fabi.

ein hymrwymiad i chi

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi cytuno i'r hyn rydyn ni'n ei alw'n 'Ymrwymiad Cenedlaethol'. Mae hwn yn becyn y cytunwyd arno o hyfforddiant, cefnogaeth a gwobrau sy'n cael ei fwynhau gan bob un o'n gofalwyr maeth yng Nghymru.

Foster Wales Anglesey team

tîm maethu lleol

Dydych chi ddim allan yna ar eich pen eich hun.  Mae gennych dîm i’ch cefnogi a’ch annog, bob cam o’r ffordd.

Mae cymorth ar gael ar unrhyw adeg – nid o fewn oriau swyddfa yn unig. Rydym wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda’n gofalwyr maeth, ac mae hynny’n golygu bod wrth law 24/7.  Beth bynnag sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch, byddwn ni yno.

Supervising social worker and foster carer

gweithiwr cymdeithasol maethu ymroddedig

Bydd gennych weithwyr cymdeithasol proffesiynol medrus a phrofiadol wrth law, gydag aelod o’r tîm maethu sydd wedi ymrwymo i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith.

Mae eich tîm Maeth Cymru Ynys Môn yn rhan o’r awdurdod lleol, gan weithio ochr yn ochr â gweithiwr cymdeithasol y plentyn. Mae hyn yn golygu mynediad at wybodaeth am y plentyn ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol eraill a chysylltiadau gwaith agosach â gweithwyr cymdeithasol plant.

four people going for a walk

cymorth cyfoedion

Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddod â chi’n agosach at deuluoedd maeth eraill.  I roi profiadau newydd, cyfeillgarwch newydd, ac atgofion newydd i chi. Bydd gofalwyr maeth arloesol profiadol yn eich cefnogi chi.

woman sitting on sofa with laptop on knee

cyfleoedd dysgu

Mae ein fframwaith dysgu a datblygu wedi’i brofi, wedi’i ddatblygu gyda gofalwyr maeth ac yn gyson ledled Cymru. Mae cyrsiau hyfforddi lleol yn ffordd wych o gwrdd â gofalwyr maeth eraill, ac rydym yn cynnig adnoddau, offer a ffyrdd eraill o ddysgu hefyd.

mwy o gwestiynau am gymorth ariannol?

Byddwn yn rhannu ac yn esbonio'r holl gymorth y gallwch ei gael. I gael dadansoddiad llawn o'r lwfansau maethu lleol a'r cymorth ariannol yr ydym yn ei gynnig, gofynnwch am becyn gwybodaeth.

gofyn am becyn gwybodaeth

cymorth arall a gwobrau

Allowances icon

disgownt treth gyngor

Disgownt treth gyngor 100% i ofalwyr maeth awdurdod lleol

Car icon

pasys parcio

Parcio am ddim mewn mannau parcio Cyngor Ynys Môn.

Icon of tickets/passes

aelodaeth môn actif

Aelodaeth hamdden am ddim i’r teulu cyfan.

Coffee mug icon

awdurdod lleol maethu cyfeillgar

Gwyliau ychwanegol arbennig i ofalwyr maeth sydd hefyd yn weithwyr Cyngor Sir Ynys Môn, neu yn y broses o ddod yn ofalwr maeth.