stori

Efeilliaid o Fôn yn derbyn gwobr genedlaethol am helpu plant maeth i deimlo’n rhan o’r teulu

Mae efeilliaid o Ynys Môn sydd wedi treulio blynyddoedd yn croesawu plant maeth i’w cartref gyda thrugaredd a charedigrwydd wedi cael eu cydnabod gyda Gwobr Rhagoriaeth Maethu genedlaethol.

Mae’r chwiorydd Renée a Violet, sy’n 10 oed, wedi’u henwi’n enillwyr Gwobr Xeinadin ar gyfer Plant Gofalwyr Maeth yng Ngwobrau Rhagoriaeth Maethu 2026 y Rhwydwaith Maethu. Cawsant eu cydnabod am y trugaredd, y caredigrwydd a’r ymroddiad maent wedi’i ddangos wrth gefnogi plant sydd wedi eu maethu gan eu teulu ers pan oeddent ond yn chwe mlwydd oed.

Dros y blynyddoedd, mae’r chwiorydd wedi rhannu eu cartref, eu rhieni a’u bywyd teuluol gyda phlant sydd wedi profi colled, ansicrwydd a thrawma. Roedd eu henwebiad yn tynnu sylw at y cynhesrwydd a’r croeso y maent yn ei ddangos i bob plentyn sy’n ymuno â’u teulu, gan eu helpu i deimlo’n ddiogel, yn werthfawr ac yn gynwysedig o’r eiliad y byddant yn cyrraedd.

Cafodd y chwiorydd eu henwebu gan Weithiwr Cymdeithasol y teulu, Ilaria Zanier o Maethu Cymru Môn, a ddywedodd:

“Dros y blynyddoedd mae Renée a Violet wedi croesawu plant maeth i’w teulu gyda chynhesrwydd, caredigrwydd a derbyniad. Pan ofynnwyd i’w rhieni ddarparu gofal brys i blentyn tra roedd plentyn maeth arall eisoes yn byw yn y cartref, bu Renée a Violet yn helpu i greu lle ychwanegol mewn ystafell wely fel y gallai’r plentyn hwnnw aros.

“Nid anghyfleustra oedd eu hymateb nhw, ond trugaredd.”

Ilaria gyda Renée a Violet yn y seremoni

Roedd y beirniaid yn arbennig o hoff o’r gweithredoedd caredig dyddiol a oedd wedi gwneud gwahaniaeth parhaol i’r plant yn eu gofal. Roedd yr enwebiad yn disgrifio sut mae’r chwiorydd yn aml yn cynnig cysur, sicrwydd a chefnogaeth ymarferol i frodyr a chwiorydd maeth iau, gan eu helpu i ymdopi â phrofiadau anodd a theimlo’n rhan o’r teulu.

Er eu bod wedi profi’r tor calon o ffarwelio â brodyr a chwiorydd maeth sydd wedi symud ymlaen, mae Renée a Violet yn parhau i groesawu plant newydd gyda chydymdeimlad, gwydnwch a dealltwriaeth.

Mae’r effaith y maent wedi’i chael ar y plant yn cael ei hadlewyrchu yng ngeiriau un o’u brodyr maeth, a ddywedodd:

“Roedd Renée a Violet yn groesawgar iawn pan symudais atynt ac maen nhw wedi fy helpu i deimlo’n fwy hyderus ac yn fwy cyfforddus. Maen nhw bob amser yn fy nghynnwys ym mhopeth maen nhw’n ei wneud ac rwy’n ddiolchgar iawn fy mod yn cael byw efo nhw.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ynys Môn, Fôn Roberts: “Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth wych o’r trugaredd, y cydymdeimlad a’r caredigrwydd eithriadol y mae Renée a Violet wedi’i ddangos. Mae maethu’n ymdrech deuluol, ac mae plant gofalwyr maeth yn chwarae rhan hanfodol wrth groesawu, cefnogi a gofalu am blant sy’n ymuno â’u teuluoedd. Gyda’i gilydd, maent yn helpu i greu amgylcheddau diogel a chariadus lle gall plant a phobl ifanc ffynnu. Rydym yn hynod falch o Renée a Violet, ac o’n holl deuluoedd maeth, am y gwahaniaeth y maent yn ei wneud bob dydd.”

A group photo of the Anglesey team with Renee and Violet
Renée a Violet gyda’u rhieni, Sarah a Simon, yng nghwmni Fôn Roberts, Kiri Pritchard-McLean ac Ilaria Zanier

Gwobrau blynyddol Rhagoriaeth Maethu (‘Fostering Excellence Awards’) yw’r gwobrau gofal maeth mwyaf blaenllaw yn y DU. Maent yn dathlu llwyddiannau eithriadol yn y maes maethu, ac yn cydnabod y rhai sy’n gwneud cyfraniadau arbennig i ofal maeth bob dydd.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn y Birmingham Repertory Theatre ar 12 Tachwedd ac fe’i chyflwynwyd gan y comedïwr a’r darlledwr, Kiri Pritchard McLean. Mae Kiri ei hun yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Môn, ac yn eiriolwr brwd dros wasanaethau maeth awdurdodau lleol.

Canmolwyd gofalwyr maeth o bob cwr o Gymru am y gefnogaeth y maent yn ei rhoi i blant a phobl ifanc ledled y wlad yng Ngwobrau Rhagoriaeth Maethu eleni.

O blith y 17 gwobr, roedd wyth o’r enillwyr yn dod o Gymru, gyda gofalwyr maeth a’u teuluoedd yn cael eu cydnabod am y trugaredd, y cydymdeimlad a’r gefnogaeth y maent wedi’i dangos i blant a phobl ifanc mewn gofal maeth.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch