Mae gofalwyr maeth yn Ynys Môn yn dathlu’r cyfraniad hanfodol y mae eu plant eu hunain yn ei wneud i’r daith faethu.
Fel rhan o Wythnos Plant Gofalwyr Maeth (13 i 19 Hydref), mae gofalwyr Maethu Cymru Môn yn rhannu straeon am sut mae eu plant wedi helpu i sicrhau fod y rhai sydd yn eu gofal yn teimlo eu bod yn cael croeso, eu bod yn hapusach, yn fwy diogel, a’u bod yn cael eu caru.
Mae rhai pobl yn dweud taw un o’r rhwystrau i ddod yn ofalwyr maeth yw’r effaith bosib ar eu plant, ond mae llawer o blant yn gweld manteision o fod yn rhan o deulu sy’n maethu. Gall gweld bywyd o safbwynt rhywun arall fod yn brofiad cyfoethog a all helpu plentyn i ddysgu a datblygu fel unigolyn. Mae plant hefyd yn gweld bod modd iddynt ddatblygu eu cysylltiadau eu hunain â phlant sy’n cael eu maethu yn eu cartref.
Mae Kirsty a Matt yn rhannu eu stori nhw am gynnwys eu plant yn y broses o faethu gyda Maethu Cymru Môn.
magwraeth ar aelwyd faethu brysur
Meddai Kirsty: “Dechreuodd Mam a Dad faethu ym 1995 ac felly rydw i wedi cael fy magu ar aelwyd brysur fel plentyn i ofalwyr maeth. Roeddem wedi symud o Birmingham i Ynys Môn cyn iddynt ddechrau maethu ac roedd dod yma yn ffordd o fyw mor wahanol.
Yn sydyn roedd gennym gartref mwy a llawer o le awyr agored, ac wrth i fy rhieni ddechrau maethu, aeth ein teulu yn fwy hefyd. Roedd y ffraeo arferol wrth gwrs – yn y maes chwarae neu gartref, yn dadlau am ein pethau – ond roedd hynny’n rhan naturiol o fywyd teuluol.
Fel plentyn yn tyfu i fyny, roeddwn yn eithaf anwybodus am faethu. Nid oeddwn yn ymwybodol o wahaniaeth rhwng fy mrodyr a chwiorydd maeth a fi, roedd popeth yn hollol ddi-dor!
Fel oedolyn, roeddwn eisoes yn rhan o rwydwaith cymorth estynedig Mam a Dad, a arweiniodd yn y pen draw at fi a fy ngŵr Matt yn dod yn ofalwyr maeth cofrestredig ein hunain. Ar y dechrau, cawsom ein cymeradwyo i ddarparu egwyl fer a gofal seibiant, i gefnogi Mam a Dad a’r plant yr oeddent yn gofalu amdanynt. Roedd gen i fantais oherwydd fy nghefndir, ac roedd yn estyniad naturiol o’r hyn yr oeddem yn ei wneud yn barod.”

teulu cymysg erioed
“Mae fy nheulu wastad wedi bod yn un teulu cymysg. Mae Matt yn llys dad i fy mab hynaf, mae gen i frodyr a chwiorydd maeth, ac rydw i’n rhan o rwydwaith cefnogaeth eang – pobl yr ydw i’n eu cefnogi, pobl yr ydw i’n dibynnu arnynt a phobl y mae gen i feddwl ohonynt ac sydd gan feddwl ohonof i – ac rydym yn un teulu mawr.
Ers dechrau maethu yn 2014, rydym wedi cael merch. Mae maethu wedi bod yn rhan o’i bywyd o’r dechrau. Mae’n siarad am ei pherthynas â’i brodyr a chwiorydd maeth hyd yn oed ar ôl iddynt symud ymlaen. Rydw i wedi gweld yr effaith barhaol y mae maethu’n ei gael a’r atgofion hyfryd yr ydym yn eu rhannu.
Dros y blynyddoedd mae’r plant wedi ein helpu i groesawu eu brodyr a chwiorydd maeth ac maent yn mwynhau cael plant eraill i chwarae efo nhw, rhannu hoff brydau bwyd, dysgu gemau newydd a dangos i’r plant yr ydym yn gofalu amdanynt sut yr ydym ni’n gwneud pethau fel teulu, fel gwneud gwaith cartref efo’n gilydd.”
cysylltiadau sy’n ein uno
“Un o’r pethau rwy’n ymwybodol ohono yw sicrhau bod pob plentyn yn ein cartref yn cael amser un-i-un gyda’r ddau ohonom, ar wahân. Boed yn rhannu siocled poeth, chwarae yn y parc, paentio gwinedd ein gilydd, neu i Matt eistedd gyda nhw i wneud ychydig o liwio. Mae’r cyfan yn helpu i adeiladu cysylltiad a chryfhau ein bondiau.
Rwy’n gwybod y gall yr effaith ar eich plentyn neu blant fod yn un o’r prif bryderon i unrhyw riant sy’n ystyried maethu; rydym yn delio gyda hyn trwy neilltuo amser i sicrhau nad yw ein merch yn teimlo ei bod hi bob amser yn rhannu Mam a Dad, ac mae hyn yr un mor wir i’n plant maeth tra eu bod yn gyda ni hefyd.
Mae pob teulu’n wahanol, maent yn edrych yn wahanol ac maent yn gwneud pethau’n wahanol, ond yr hyn sy’n gweithio i ni ydi cyfathrebu. Mae’n hanfodol bwysig gwneud yn siŵr bod pawb yn cael ei glywed a’i gynnwys.
Hynny a chael rhwydwaith cefnogaeth anhygoel!”
wythnos plant gofalwyr maeth
Ymgyrch flynyddol Y Rhwydwaith Maethu yw Wythnos Plant Gofalwyr Maeth i ddathlu’r cyfraniad hanfodol mae plant gofalwyr maeth yn ei wneud i ofal maeth. Bob mis Hydref, mae gwasanaethau maethu ledled y DU yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau i gydnabod a gwobrwyo plant gofalwyr maeth oherwydd y rôl bwysig y maent yn ei chwarae yn eu cartref, gan wneud i blant mewn gofal deimlo eu bod yn cael croeso, eu bod yn hapusach, yn fwy diogel, a’u bod yn cael eu caru.