sut mae'n gweithio

y broses

y broses

Rydych chi’n barod i gychwyn ar eich taith faethu, ond pa mor hir mae’r broses yn ei chymryd yn Ynys Môn, a beth allwch chi ei ddisgwyl?

Gofalwr maeth / Male foster carer

y cam cyntaf: cysylltwch

Mae’r broses yn dechrau gydag ymholiad cychwynnol, naill ai dros y ffôn neu drwy e-bost. Ar ôl i chi gysylltu â ni, rydych chi ar y ffordd. Mae’n gam bach, ond arwyddocaol.

Byddwn yn cymryd eich manylion er mwyn i ni allu dechrau deall eich sefyllfa. Byddwch chi’n cael pecyn gwybodaeth, sy’n esbonio sut beth yw bod yn ofalwr maeth.

Gofalwr maeth a bachgen yn sgwrsio / Foster carer and boy chatting

cam 2: yr ymweliad cartref

Ar ôl i chi gysylltu, byddwn yn dechrau dod i’ch adnabod chi. Bydd rhywfaint o waith papur i ddechrau, yna byddwn yn ymweld â chi gartref, os bydd rheoliadau Covid-19 yn caniatáu hynny. Os na fydd hyn yn bosibl, byddwn yn trefnu galwad fideo yn lle hynny. Mae’n hanfodol ein bod ni’n ffurfio perthynas â chi o’r cychwyn cyntaf, er mwyn i ni allu deall pwy sydd bwysicaf i chi a dysgu am eich cartref

cam 3: yr hyfforddiant

Rydyn ni’n cynnig cwrs hyfforddi dros dri diwrnod er mwyn i chi gael y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer maethu. Cewch gyfle i gwrdd ag aelodau o dîm Maethu Cymru Ynys Môn a gofalwyr eraill yn yr ardal leol mewn awyrgylch anffurfiol.

“fe wnaethon ni gwrdd â llawer o bobl wych rydyn ni bellach yn eu hystyried yn ffrindiau ac rydyn ni’n helpu ac yn cefnogi ein gilydd pan fydd angen hynny arnon ni” – Gofalwr Maeth

Gofalwr maeth a dau o blant yn y gegin / Foster carer and two young children in the kitchen

cam 4: yr asesiad

Yn ystod y cam hwn, byddwch chi’n dysgu beth fydd maethu yn ei olygu i chi. Mae’n bwysig eich bod yn cofio – dim prawf yw’r asesiad. Mae’n gyfle i ni ddeall deinameg eich teulu ac yn gyfle i chi a’ch teulu ofyn unrhyw gwestiynau i ni. Gweithwyr cymdeithasol sy’n cynnal yr asesiadau, gan ystyried cryfderau a gwendidau teulu.

Teulu ar y traeth / Family on a beach

cam 5: y panel

Mae ein panel yn cynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol hyddysg a medrus yn ogystal ag aelodau annibynnol. Maen nhw’n adolygu eich asesiad o bob ochr ac yn edrych ar bob gofalwr maeth fel unigolyn.

Bydd aelodau panel Maethu Cymru yn cyflwyno argymhellion ynghylch beth fyddai’n gweithio orau i’ch amgylchiadau personol chi.

Gofalwr maeth a dau o blant ifanc wrth y drws / Foster Carer and two young children outside home.

cam 6: y cytundeb gofal maeth

Ar ôl i’r panel ystyried eich asesiad, mae’r cytundeb gofal maeth yn nodi beth mae bod yn ofalwr maeth yn ei olygu. Mae hyn yn cynnwys rolau a chyfrifoldebau ynghyd â’r gefnogaeth a’r arweiniad ehangach y byddwch yn eu darparu. Mae’r cytundeb hefyd yn cynnwys sut byddwn ni’n eich cefnogi ar hyd eich taith, a’r holl wasanaethau penodol y bydd gennych hawl iddyn nhw fel rhan o’n tîm.

Teulu yn cerdded ar y traeth / Family walking on a beach

ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf?

cysylltwch