Yn wreiddiol o Swydd Stafford, symudodd Debbie i Gymru yn 1992 i astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol. Yn ddiweddarach, cwblhaodd Ddiploma mewn Gwaith Cymdeithasol (DipSW) ac ymgartrefu yng Ngogledd Cymru.
Erbyn hyn mae’n Weithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol gyda Maethu Cymru Môn ac mae’n siaradwr Cymraeg rhugl. Mae Debbie’n rhannu ei phrofiad bywyd o sut wnaeth tyfu i fyny fel plentyn gofalwyr maeth lywio ei llwybr a’i thywys at yrfa mewn gwaith cymdeithasol.
faint oedd dy oed pan ddechreuodd dy rieni faethu?
Roeddwn i’n bedair oed pan ddechreuon nhw faethu, ac roedd fy mrawd yn ddau. Daeth plentyn i aros gyda ni, ac rydw i’n cofio gweld llun ohonyn nhw cyn hynny, felly roedd o wedi cael ei gynllunio i raddau. Roedd y plentyn yn ddyflwydd oed pan wnaethon nhw gyrraedd, ac un o fy atgofion cyntaf yw ohonyn nhw’n dychwelyd i ofal eu rhieni.
I mi, roedd maethu’n rhan o fywyd bob dydd, er ei fod yn wahanol i fy mhrofiad pan gyrhaeddodd fy mrawd, gan fy mod wedi cael fy mharatoi ar gyfer hynny trwy gydol beichiogrwydd fy mam, a dod i arfer efo’r syniad o fod yn chwaer fawr.
Pan ddechreuodd maethu, doedd yna ddim asesiad ‘Ffurflen F’ fel heddiw – byddai rhywun yn cyrraedd un diwrnod a gadael y diwrnod wedyn. Dydw i ddim yn cofio unrhyw esboniad manwl, dim ond dealltwriaeth ei bod hi’n byw efo ni am nad oedd ei mam yn teimlo’n dda.
Buon nhw’n maethu am 40 blynedd cyn penderfynu arafu trwy ddarparu gofal lliniarol a seibiannau byr, cyn ymddeol yn gyfan gwbl yn y pendraw a rhoi’r gorau i faethu. Dwi’n gwybod fod hynny’n benderfyniad anodd iddyn nhw, gan fod maethu wedi bod yn rhan mor fawr o’u bywydau. Ond roedd o’n beth anhygoel i’w gyflawni, ac rydw i’n falch iawn o bopeth y maen nhw wedi’i wneud.
Siaradais efo fy rhieni bore ‘ma i ddweud wrthyn nhw y byddwn i’n rhannu fy stori, a chawsom sgwrs dda am bopeth. Mae fy nhad yn meddwl eu bod nhw wedi gofalu am o leiaf 100 o blant dros y blynyddoedd.
Roedd rhai plant yn aros am gyfnod hir, ac eraill am gyfnodau byrrach, a rhai am noson neu ddwy mewn argyfwng. Roedden nhw’n gofalu am nifer o blant gwahanol, gan gynnwys grwpiau mawr o rhwng tri a phump o frodyr a chwiorydd, ond yr hyn sydd fwyaf cofiadwy i mi yw bod pob plentyn yn unigryw yn ei ffordd ei hun.
sut brofiad oedd tyfu i fyny mewn teulu oedd yn maethu?
O (chwerthin), roedd ‘na ddrama bob amser, ond roedd ‘na lawer o hwyl hefyd. Roedd yna wastad rhywun i chwarae efo nhw – a rhywun i ffraeo efo nhw – tebyg iawn i unrhyw frodyr a chwiorydd a dweud y gwir. Roeddem yn rhannu cymaint o brofiadau bywyd efo’n gilydd, o fynd ar wyliau i fynd i’r ysgol. Roedd o bob amser yn teimlo fel cartref llawn, prysur.
Dwi’n cofio gefeilliaid yn byw efo ni am tua deuddeg mlynedd – a dim ond wythnosau oedd rhwng y tri ohonom o ran oedran. Roeddem yn rhannu ystafell wely, rhywbeth fyddai byth yn digwydd heddiw, felly roedd hi reit gyfyng arnom. Roedd pethau’n wahanol iawn y dyddiau hynny. Roeddem yn byw’n agos at ein gilydd, yn rhannu ffrindiau ac yn mynd i’r un ysgol. Roedd hynny’n beth cadarnhaol mewn sawl ffordd, ond roedd yn creu heriau i bob un ohonom – yn enwedig o ran darganfod ein hunaniaeth ein hunain a gwneud amser i ni ein hunain.
Er enghraifft, roeddem ni gyd ar yr un tîm pêl-rwyd yn yr ysgol, ac roedd yn dipyn o jôc ein bod yn ffurfio hanner y tîm bron!
Dwi’n cofio rhai o’u hymweliadau cyswllt gydag aelodau o’r teulu oedd yn byw gerllaw – roedden nhw ar eu hapusaf ar yr adegau hynny pan oedden nhw’n cael gweld eu hanwyliaid. Cafodd y cysylltiadau teuluoedd cryf hynny eu cynnal, ac, yn ffodus, cawsant fynd yn ôl at un o’u rhieni genedigol pan oedden nhw’n eu harddegau.
Fel plentyn i ofalwyr maeth yn y 70au a’r 80au, yn aml roedd yn ymddangos fod pethau’n digwydd yn gyflym, heb fawr o baratoi. Er enghraifft, ar ôl byw gyda’n gilydd am ddeuddeg mlynedd, es i’r ysgol un diwrnod a phan ddes i adref roedden nhw wedi mynd. Wrth edrych yn ôl yn awr, fel oedolyn a gweithiwr proffesiynol gwaith cymdeithasol, rydw i’n edrych ar y profiadau hynny’n wahanol iawn i sut yr oeddwn i ar y pryd.
Wrth edrych yn ôl, mae’n rhaid fod y profiad yn un ofnadwy o anodd i’r efeilliaid. Roedden nhw’n dangos cryfder a gwytnwch anhygoel o ystyried yr amgylchiadau trawmatig oedd yn eu hwynebu. Mae’n siŵr fod y teimlad o gael eu gadael a bod ar wahân i’w brodyr a chwiorydd eraill wedi bod yn hynod o anodd.
Doedd yna fawr o hyfforddiant ar gyfer gofalwyr maeth ar y pryd. Doedd yr un lefel o ymchwil, gwybodaeth a dealltwriaeth ddim yn bodoli – dim ymarfer sy’n wybodus am drawma, ‘doedd ‘na fawr o bwyslais ar ddysgu a datblygiad proffesiynol, dim cefnogaeth i grwpiau a gofalwyr, a dim cefnogaeth benodol ar gyfer plant gofalwyr maeth, fel y ceir heddiw. Mae pethau wedi datblygu’n fawr.
beth am effaith barhaus tyfu i fyny gyda brodyr a chwiorydd maeth?
Roeddwn i’n gwybod erioed fod maethu’n rhywbeth yr oeddwn i eisiau bod yn rhan ohono – rwy’n teimlo ei fod o yn fy ngwaed i rywsut, o fy mhrofiadau cynnar i lle’r ydw i heddiw, ond mewn ffordd wahanol.
Mae tyfu i fyny efo brodyr a chwiorydd maeth wedi rhoi dealltwriaeth ddofn i mi o ba mor hanfodol bwysig yw rôl gofalwr maeth wrth drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc. Dydi o ddim yn golygu y bydd popeth yn cael ei “ddatrys”, ond mae’n golygu cyd-gerdded gyda nhw ar y daith a gweithio tuag at y canlyniadau gorau posib.
Rydw i wedi bod yn Weithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol ar Ynys Môn ers 2003, ac mewn sawl ffordd, rydw i’n aml yn chwarae rôl ddeuol – yn enwedig fel gweithiwr cymdeithasol newydd gymhwyso pan oedd fy rhieni’n dal i faethu. Dysgais sut i wisgo gwahanol hetiau. Pan oedd Mam yn ffonio am sgwrs, byddwn yn meddwl yn gyflym: ai ei merch hi oeddwn i neu ‘Debbie’r Gweithiwr Cymdeithasol’ oedd â safbwynt gwahanol? Mae mam yn eithaf di-flewyn ar dafod ac yn aml byddai’n dweud, “Dydw i ddim isio siarad efo Debbie’r Gweithiwr Cymdeithasol!”
Roedd fy rheini’n rhoi cyfnod o sefydlogrwydd i’r plant oedd yn aros efo nhw – naill ai nes eu bod yn dychwelyd adref, yn symud i ofal maeth hirdymor, neu’n cael eu mabwysiadu. Roedd pob un plentyn yn fendigedig ac roedd colled ar eu hôl, ond fe wnaeth un neu ddau ohonyn nhw fy nghyffwrdd go iawn a bydd lle arbennig iddyn nhw yn fy nghalon bob amser. Mae mam yn dal i fod yn agos at nifer ohonyn nhw heddiw.
At ei gilydd, oherwydd fy mhrofiadau, rydw i wedi llwyddo i ddangos empathi cryf a deall fod plant yn gallu bod yn hynod o wydn wrth wynebu trawma annioddefol. Mae nifer yn mynd ymlaen i fyw bywydau llawn boddhad, a bod yn rhieni llwyddiannus eu hunain, a ffynnu’n wirioneddol. Mae’r wers hon wedi fy arwain trwy gydol fy ngyrfa mewn gwaith cymdeithasol, ac mae’n rhywbeth sy’n aros gyda mi bob amser.
sut wnes di ddod yn weithiwr cymdeithasol?
Tra’r oeddwn i’n gwneud gwaith gwirfoddol gyda Community Action pan oeddwn i yn y brifysgol, gofynnodd un o’r gwirfoddolwyr eraill – oedd newydd ddechrau ei Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol – beth oeddwn i’n bwriadu ei wneud ar ôl gorffen fy ngradd. Awgrymodd y dylwn ystyried Gwaith Cymdeithasol, o ystyried fy nghefndir a fy mhrofiad o wirfoddoli yn y maes hwnnw.
Y sgwrs honno wnaeth sbarduno popeth.
Fel rhan o fy nghais, derbyniais eirda gan un o’r Gweithwyr Cymdeithasol fu’n gweithio gyda’n teulu. Dwi’n dal i gofio pa mor gadarnhaol oedd y geirda wrth ddisgrifio fy nghyfraniad fel rhan o deulu oedd yn maethu, a rhoddodd yr anogaeth honno yr hyder i mi symud ymlaen.
Fel rhan o’r broses, roeddwn yn gallu defnyddio fy mhrofiad fel plentyn i ofalwyr maeth – roedd yn teimlo fel cam nesaf naturiol, ac roeddwn yn gwybod mod i eisiau gweithio yn y maes yma.
Roeddwn yn ffodus i gael cymryd rhan mewn rhaglen gofal maeth yn Awstralia, lle cefais brofiad anhygoel o weithio ochr yn ochr gyda staff a theuluoedd maeth. Roedd yn brofiad hynod emosiynol, treiddiol a gwerth chweil – profiad wnaeth wirioneddol gadarnhau fy ymrwymiad. Ac rydw i’n dal i weithio ym maes gofal maeth hyd heddiw!
pa sgiliau a nodweddion sydd eu hangen ar ofalwr maeth da yn dy farn di?
Byddwn i’n dweud bod cynhesrwydd emosiynol, empathi a sgiliau cyfathrebu cryf yn hanfodol – ac mae synnwyr digrifwch da yn ddefnyddiol iawn!
Mae maethu’n rôl sy’n gofyn am weithio’n agos gydag eraill, gan gynnwys teuluoedd genedigol, awdurdodau lleol ac asiantaethau amrywiol. Mae’n bwysig hefyd deall materion megis hunaniaeth, diwylliant a threftadaeth Gymreig, neu fod yn barod i ddysgu am ddiwylliannau eraill. Rydw i bob amser yn annog gofalwyr maeth i fod â meddwl agored ynghylch cyfleoedd dysgu, gan fod hyn yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth.
Dylid bod amser dderbyn y gefnogaeth sy’n cael ei gynnig gan y tîm maethu – pwyswch ar eich Gweithiwr Cymdeithasol, Gweithiwr Cefnogi, gofalwyr maeth eraill a’ch rhwydwaith cefnogi eich hun.
Mae angen dealltwriaeth gadarn o anghenion plant ar ofalwyr maeth. Nid yw’n hawdd bob amser, ond mae sicrhau fod popeth yn canolbwyntio ar y plentyn yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Yn y pendraw, mae maethu’n cynnig gwobrwyon enfawr. Os ydych chi’n mwynhau treulio amser gyda phlant – yn chwarae, mynd allan am y diwrnod, neu ddim ond bod gyda’ch gilydd – a’ch bod wir yn caru’r hyn rydych chi’n ei wneud, yna mae o’n wirioneddol werth yr ymdrech.
pa gyngor fuaset ti’n ei roi i rywun sydd â phlant ac sy’n ystyried maethu?
Mae maethu’n brofiad hynod werthfawr. Mae’n golygu gofalu am blentyn sydd angen lle diogel – yn aml mewn argyfwng – a chynnig yr anogaeth, caredigrwydd a chefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i’w helpu i gyrraedd eu llawn botensial. Nid oes unrhyw beth tebyg!
Wrth gwrs, mae gan maethu ei heriau, ond bydd llawer o chwerthin ar hyd y daith hefyd. Gyda’r gefnogaeth gywir, byddwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac yn gwella canlyniadau ar gyfer plant lleol.
O fy mhrofiad personol a phroffesiynol, mae maethu, mewn gwirionedd, yn dod yn ffordd o fyw i blant gofalwyr maeth.
Fe wnes i hefyd weld yr effaith gafodd maethu ar fy mhlant fy hun, yn enwedig wrth iddyn nhw ymwneud â’r plant maeth oedd yn aros gyda’u nain a’u taid. Roedd fy mab wrth ei fodd cael chwarae efo nhw, roeddem yn mynd ar dripiau efo’n gilydd ac roedden nhw’n dod yn rhan o’n teulu ni – roedd o wir yn ymdrech gan y teulu cyfan.
Gall ffarwelio fod yn anodd, felly mae’n bwysig bod yn fwy ymwybodol a chael sgyrsiau agored gyda’ch plant eich hun, a thrafod mewn ffordd sy’n ddealladwy iddyn nhw. Pan fydd plant maeth yn gadael, cofiwch siarad efo’ch plant a’ch wyrion er mwyn eu helpu i deimlo eu bod yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi yn y cartref.
Byddwch yn gwneud cysylltiadau gwych gyda gofalwyr maeth eraill – mae yna gymuned gref yma ar yr ynys, gyda digon o ddigwyddiadau a gweithgareddau. Fyddwch chi fyth ar eich pen eich hun; mae gwneud cysylltiadau’n holl bwysig.
Fel gofalwyr maeth, rydych yn newid bywydau plant, ond bydd eich bywyd eich hun yn newid er gwell hefyd. Fyddwn i ddim y person ydw i heddiw heblaw am faethu, ac ni fyddwn yn y rôl hon chwaith.

fyddech chi’n gallu maethu gyda’ch awdurdod lleol?
Os ydych chi’n byw ar Ynys Môn, cysylltwch â Maethu Cymru Môn a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi am sgwrs gyfeillgar, hollol ddi-ymrwymiad, i’ch helpu i benderfynu os byddai maethu’n eich siwtio chi.
Os ydych yn byw yn unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru am fwy o wybodaeth ac i ddarganfod eich tîm maethu awdurdod lleol.