Ddeuddeg mlynedd ar ôl dechrau ei siwrnai maethu, penderfynodd Donna adael ei hasiantaeth faethu annibynnol ac ymuno â thîm maethu awdurdod lleol Ynys Môn.
A hithau yn fam i dri o blant – yn cynnwys un plentyn a ddaeth i fyw efo hi’n faban newydd-anedig ac y gwnaeth hi ei fabwysiadu’n ddiweddarach – ac yn rhedeg ei busnes ei hun, roedd wedi hen arfer â bywyd prysur, llawn dop.
Ond ar ôl cael trafferth dod o hyd i’r gefnogaeth gywir – gan fod yr asiantaeth a’r plant yr oedd yn gofalu amdanynt yn aml iawn wedi’u lleoli yn bell i ffwrdd – roedd eisiau teimlo’i bod yn rhan o gymuned faethu leol.
Ar ôl symud, mae Donna’n teimlo’n wahanol iawn. Mae’r plant y mae’n gofalu amdanynt yn lleol, mae cefnogaeth wrth law ac mae’r tîm yn ei nabod hi – yn ogystal â’r plant – yn dda. Maent yn deall anghenion y plant, ei chryfderau hi a sut i’w cefnogi orau. Ac, yn bwysicach fyth, mae’n teimlo’n rhan o’r gymuned faethu.
Yn y sesiwn holi ac ateb hwn, mae Donna’n rhannu ei phrofiad hi o drosglwyddo, sut oedd y broses, a pham ei bod hi’n falch ei bod wedi symud i faethu’n lleol efo Maethu Cymru Môn.
ei stori a’r hyn a’i hysgogodd
beth wnaeth dy ysgogi i ddod yn ofalwr maeth yn y lle cyntaf?
Donna: Dw i’n meddwl bod yr hadyn wedi cael ei blannu flynyddoedd maith yn ôl. Mae’n siŵr fy mod i’n tua saith oed pan nes i ddechrau meddwl am faethu. Dyma pryd y gwnes i ddarganfod bod fy nhad wedi cael ei fabwysiadu, ac roeddwn i’n awyddus i gael gwybod pwy oedd ei rieni go iawn ac i glywed ei stori.
Roedden ni hefyd yn byw wrth gartref plant, ac wrth i mi dyfu’n hŷn, ro’n i’n arfer cerdded heibio’r cartref bob dydd ar y ffordd i’r ysgol. Ro’n i’n gweld y plant yn chwarae y tu allan a bob amser yn gofyn “Gawn ni faethu?”. Fe wnaeth y profiad yma aros efo fi. Ro’n i eisiau helpu – rhoi cyfle i blant deimlo’u bod yn perthyn ac yn derbyn y gefnogaeth deuluol y mae pawb yn ei haeddu.
Felly, mae’n rhywbeth yr ydw i wedi bod eisiau ei wneud erioed.
ers faint oeddet ti’n maethu cyn penderfynu trosglwyddo i’r awdurdod lleol?
Donna: Ro’n i wedi bod yn maethu efo asiantaeth annibynnol ers 2008, felly erbyn i mi benderfynu trosglwyddo yn 2020, ro’n i wedi bod yn maethu ers tua deuddeg mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, ro’n i wedi cael llawer o brofiad ac wedi gofalu am blant o bob oed, ond ro’n i wedi cyrraedd pwynt lle’r o’n i eisiau teimlo fy mod yn perthyn i rywbeth mwy lleol. Ro’n i eisiau teimlo’n rhan o dîm a chael fy ngwerthfawrogi am y gwaith yr o’n i’n ei wneud.
beth wnaeth i ti ddechrau meddwl am symud o asiantaeth maethu annibynnol i’r awdurdod lleol?
Donna: I fod yn onest, doeddwn i ddim yn teimlo unrhyw gyswllt. Doedd y plant yr oeddwn i’n gofalu amdanynt ddim yn lleol, ac felly roedd pethau pob dydd fel mynd â nhw i’r ysgol yn anodd iawn – weithiau ro’n i’n treulio oriau yn y car. Doedd y tîm ddim yn agos chwaith, felly roedd hi’n anodd cael gafael ar rywun neu gael gafael ar y gefnogaeth gywir.
Roeddent wedi addo y byddai cefnogaeth ar gael, ond mewn gwirionedd doedd o ddim. Dros gyfnod o ddwy flynedd bues yn gweithio â 13 gweithiwr cymdeithasol gwahanol, ac roedd y newid rheolaidd hwn yn ei gwneud hi’n anodd meithrin perthynas a chael cysondeb i mi a’r plant. Ar ôl dipyn dechreuais deimlo y byddai’n haws maethu’n lleol – gallai’r plant fynd i ysgolion lleol, a byddai cefnogaeth ar gael yn agos, a buaswn yn teimlo’n rhan o gymuned faethu unwaith eto. Dyma pryd y dechreuais ystyried trosglwyddo i’r awdurdod lleol.
y broses drosglwyddo
sut brofiad oedd y broses drosglwyddo i ti?
Donna: A bod yn onest, o’r eiliad y gwnes i gwrdd â’r tîm maethu a chael sgwrs iawn efo nhw am fy sefyllfa, ro’n i’n gwybod fy mod i yn y lle cywir. Edrychodd y rheolwr tîm arnaf i a dweud, “Reit, ‘da ni eisiau i ti ddod atom ni, gad bopeth i ni.”
Roedd y gefnogaeth a’r hyder a gefais o’r cychwyn cyntaf yn gwneud cymaint o wahaniaeth. O’r diwrnod hwnnw ymlaen, wnes i ddim edrych yn ôl – trosglwyddo i’r awdurdod lleol oedd y penderfyniad gorau i mi a’r plant sydd dan fy ngofal.
faint gymerodd y broses o’r dechrau i’r diwedd?
Donna: I mi, cymerodd y broses drosglwyddo tua chwe mis o’r dechrau i’r diwedd. Newidiodd fy amgylchiadau personol ynghanol y broses, felly cymerodd dipyn bach mwy o amser, ond roedd y tîm yn hynod gefnogol a hyblyg drwy gydol y broses ac felly at ei gilydd roedd y broses yn hwylus a chadarnhaol.
sut wnaeth yr awdurdod lleol dy gefnogi yn ystod y broses drosglwyddo?
Donna: Hyd yn oed tra’r o’n i ynghanol y broses drosglwyddo, pan darodd COVID, ro’n i’n teimlo mod i’n cael fy nghefnogi a’m gwerthfawrogi o’r cychwyn cyntaf. Rydw i’n cofio dod adref un diwrnod ac roedd yna becyn PPE yn aros amdanaf ar y stepen drws. Doeddwn i ddim wedi trosglwyddo’n swyddogol bryd hynny, ond ro’n i’n teimlo’n rhan o’r tîm yn barod. Mae pethau bach fel hyn yn golygu cymaint, a wna i fyth anghofio hynny.
y gwahaniaethau a’r manteision
beth ydi’r prif wahaniaethau yr wyt ti wedi sylwi arnynt ers trosglwyddo?
Donna: Y prif wahaniaeth i mi ydi fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi – nid dim ond fel gofalwr maeth, ond hefyd o ran y plant yr ydw i’n gofalu amdanynt. Mae cymaint mwy o ffocws ar eu hanghenion yn hytrach na busnes sy’n canolbwyntio ar elw. Mae cysondeb o fewn y tîm, maent yn wybodus ac yn wirioneddol dda yn eu gwaith, sy’n gwneud gwahaniaeth mawr o ddydd i ddydd.
Mae fy ngweithiwr cymdeithasol yn gefnogol iawn, ac yn sefyll i fyny drosof, ac mae hynny’n gwneud cymaint o wahaniaeth. Hyd yn oed pan nad ydi hi ar gael, mae rhywun arall ar gael ar ben arall y ffôn, ac mae unrhyw broblemau’n cael eu datrys yn gyflym ac effeithlon.
Gan fy mod i bellach yn ofalwr maeth sengl ac yn rhedeg fy musnes fy hwn, mae’r tîm yn gwneud yn siŵr bod gofal plant ar gael i mi pryd bynnag yr ydw i angen yn ystod y gwyliau ysgol.
Mae’n gwbl wahanol i fy mhrofiad blaenorol, ac mae’n gwneud i mi deimlo’n rhan o gymuned faethu ofalgar.
sut mae dy brofiad o faethu efo’r awdurdod lleol yn cymharu â dy brofiad o faethu ag asiantaeth annibynnol?
Donna: I fi, y prif wahaniaeth ydi’r elfen leol. O’r hyfforddiant i’r diwrnodau allan, mae popeth yn agosach at adref. Ro’n i’n arfer gorfod teithio’n bell i dderbyn hyfforddiant, ac yn aml iawn yn gorfod brysio i fynd â’r plant i’r ysgol a’u nôl. Roedd diwrnodau allan hefyd yn anodd yn enwedig i blant sydd angen trefn a strwythur – gorfod teithio dwy awr i barti Nadolig yno ac yn ôl.
Mae diwrnodau allan yn lleol ac yn haws o lawer i ni a’r plant sydd dan ein gofal. Mae cael popeth o fewn tafliad carreg yn gwneud gwahaniaeth mawr – mae’n haws, mae’n sicrhau cysondeb ac mae’n llai o straen i bawb. Wir i chi, dwi ddim yn difaru dim.
wyt ti’n teimlo dy fod di’n perthyn i’r gymuned faethu leol erbyn hyn?
Donna: Ydw, yn bendant. Dw i wedi dod yn ffrindiau efo gofalwyr maeth eraill, ac ers maethu am dros 18 mlynedd, rydw i bellach wedi cael cyfle i gefnogi gofalwyr maeth sy’n weddol newydd i’r maes. Rydw i’n dod ymlaen yn dda efo pawb ac rydw i’n teimlo’n rhan o gymuned faethu gefnogol.
edrych yn ôl a chyngor
beth ydi’r peth gorau am faethu efo’r awdurdod lleol hyd yma?
Donna: Y peth gorau ydi teimlo’n rhan o’r tîm a chael fy ngwerthfawrogi am y gwaith yr ydw i’n ei wneud. Waeth beth fo’r rôl mae teimlo’ch bod chi’n cael eich gwerthfawrogi yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae’n rhoi boddhad gwybod bod yr hyn yr ydych chi’n ei wneud yn bwysig. Rydym yn dod at ein gilydd yn rheolaidd, mae’r plant yn cael cyfle i ddod i nabod ei gilydd, ac rydym yn mynd am ddiwrnodau allan efo’n gilydd. Maent yn chwarae a chael hwyl, ac mae’n braf eu gweld yn creu cysylltiadau.
beth fyddet ti’n ei ddweud wrth ofalwyr maeth eraill sy’n ystyried trosglwyddo?
Donna: Yn bendant gwnewch ymholiadau pellach. Peidiwch â gadael i’r gwaith papur eich digalonni – mae’n rhywbeth sy’n werth ei ystyried. Rhowch gynnig arni, efallai y bydd y newid cadarnhaol ac y byddwch chi wrth eich bodd.
beth fyddet ti’n ei ddweud wrth unrhyw un sy’n ystyried maethu am y tro cyntaf?
Donna: Os oes gennych chi le, amser ac egni – ac os ydych chi’n mwynhau gweithio efo pobl – ewch amdani. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol am sgwrs gychwynnol. Cewch hyd yn oed drafod y grŵp oedran yr ydych chi’n fwy cyfforddus ag o.
Mae’n rhaid i chi allu dod ymlaen yn dda efo pobl – gallu meithrin perthnasau a chydweithio’n dda. Ond, yn bwysicach fyth, rhaid i chi fod yn eiriolwr da ar gyfer y plant sydd dan eich gofal. Chi yw eu llais, ac mae’n rôl mor bwysig a gwerth chweil.
elli di grynhoi dy brofiad o drosglwyddo mewn un frawddeg?
Donna: Dydw i ddim wedi edrych yn ôl – dwi’n difaru dim.

allech chi faethu gyda’ch awdurdod lleol?
Os ydych chi’n byw ar Ynys Môn, cysylltwch â Maethu Cymru Môn a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi am sgwrs gyfeillgar, hollol ddi-ymrwymiad, i’ch helpu i benderfynu os byddai maethu’n eich siwtio chi.
Os ydych yn byw yn unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru am fwy o wybodaeth ac i ddarganfod eich tîm maethu awdurdod lleol.